Nicola Sturgeon
Mae aelod o’r SNP wedi cael ei wahardd o’r blaid yn dilyn ymosodiad geiriol homoffobaidd “ffiaidd” ar arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson dros gyfrwng Twitter.

Fe gafodd y digwyddiad ei feirniadu gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn ystod sesiwn gwestiynau yn Holyrood ac fe wnaeth hi hefyd gadarnhau fod yr aelod sy’n gyfrifol wedi cael ei wahardd.

“Ga’i gymryd y cyfle i gondemnio’r ymosodiad geiriol ffiaidd ar Ruth Davidson ar Twitter. Mae’r aelod wedi’i wahardd o’r blaid ac fe fydd proses ddisgyblu lawn yn cael ei gynnal,” meddai.

Cafodd y dyn, sy’n cael ei adnabod fel O’Callaghan ac sy’n defnyddio’r enw @SparkyBhoyHH ar Twitter, ei ateb gan ddegau o negeseuon beirniadol gan wleidyddion a’r cyhoedd ar Twitter.

Dywedodd y cyfreithiwr hawliau dynol Aamer Anwar sy’n aelod o’r SNP:  “Roedd hwn yn ymosodiad ffiaidd. Does dim gwahaniaeth rhwng homoffobia, hiliaeth na sectyddiaeth – ddylech chi fyth orfod ei dderbyn.”

Ond mewn ymateb, fe ddywedodd O’Callaghan: “Bwhw, cefnogwch y ddynes sy’n casáu’r Alban ac a gefnogodd ‘na’. Mae hi’n Geidwadwr cegog. Mae hi’n gyfoethog, yn casáu’r dosbarth gweithiol ac yn caru Cameron.”