Dim ond 33% o blant rhwng 5-15 oed yng Nghymru sydd â dannedd iach yn ôl arolwg newydd o fwy na 13,500 o blant.
Dangosodd y ffigyrau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw gan y Ganolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCIC) fod plant o gefndiroedd difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o fod â phydredd dannedd.
Gwelwyd hefyd bod gwahaniaethau mawr rhwng iechyd dannedd plant yng ngwledydd Prydain.
Yng Nghymru roedd gan 52% o bobol ifanc 15 oed lenwad yn eu dannedd – o’i gymharu â 61% yng Ngogledd Iwerddon a 33% yn Lloegr.
Ac roedd 11% o blant Cymru wedi colli dannedd yn sgil pydredd, o’i gymharu â 13% yng Ngogledd Iwerddon a 6% yn Lloegr.
Brwsio dannedd
Mae’r Arolwg Iechyd Deintyddol Plant, sy’n cael ei gomisiynu gan Adrannau Iechyd y DU, yn cael ei gyhoeddi pob 10 mlynedd ac mae’r canlyniadau wedi gwella ers yr arolwg diwetha’ yn 2003.
Roedd merched yn well na bechgyn am frwsio’u dannedd yn ôl yr arolwg, gyda 69% o fechgyn 12 oed yn dweud eu bod nhw’n brwsio’u dannedd ddwywaith y dydd o’i gymharu â 85% o ferched.
Ymysg plant 15 oed, roedd 73% o fechgyn a 89% o ferched yn brwsio’u dannedd ddwywaith y dydd.