Fe fydd cwmni nwyddau adeiladu Travis Perkins yn agor 400 o ganghennau newydd ac yn creu 4,000 o swyddi dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd rhai o’r swyddi yn dod i Gaerdydd fel rhan o’r rhaglen fuddsoddi gwerth rhwng £150 miliwn – £200 miliwn.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni o Northampton tua 50 yng Nghymru a bron i 2,000 o ganghennau ledled Prydain.

Mae disgwyl i’r swyddi newydd gynnwys prentisiaethau a 200 o swyddi rheolwyr a rheolwyr cynorthwyol.

Dywedodd y prif weithredwr John Carter: “Mae gallu Travis Perkins i greu 4,000 o swyddi newydd yn adlewyrchu ein hyder yn ein busnes ac yn economi Prydain.”