Mae cymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd, wnaeth sbarduno ffrae ieithyddol am beidio â chynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol wrth hysbysebu dwy swydd allweddol, wedi penodi dau gyfarwyddwr di-gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei “siom” i’r penderfyniad.
Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth CCG sbarduno ffrae ieithyddol am beidio â chynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol wrth hysbysebu’r ddwy swydd. Fe wnaeth hyn arwain at benderfyniad aelod o’r bwrdd, y cynghorydd Sian Gwenllian, i ymddiswyddo.
Roedd hi’n mynnu bod CCG wedi mynd yn groes i’w Gynllun Iaith ei hun, ac y byddai’r penderfyniad yn niweidio’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sir.
Mae llefarydd ar ran y gymdeithas dai wedi dweud bod un o’r ddau gyfarwyddwr newydd yn dysgu siarad Cymraeg.
‘Y Gymraeg yn hanfodol’
Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac a oedd wedi cydlynu protest ym mis Ionawr yn erbyn israddio polisi iaith y gymdeithas dai:
“Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon yn siaradwyr Cymraeg – dylai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol mewn swyddi fel hyn. Mae’r penderfyniad yn tanseilio ymdrechion i gryfhau’r iaith nid yn unig yn yr ardal hon ond llefydd eraill yn ein gwlad sy’n edrych i ni am arweiniad.
“Mae hi’n hen bryd i bob un sefydliad, boed hynny’n awdurdod lleol neu yn gymdeithas dai ddechrau sylweddoli hynny, a gweithredu ar hynny.”
“Mae gan Gyngor Gwynedd record hir ac anrhydeddus iawn o weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn sicr ein barn fel mudiad, na fyddai hyn byth wedi digwydd o dan yr hen drefn o gael tai cymdeithasol o dan berchnogaeth y Cyngor, yn hytrach na sefydliad allanol.
“ Yn anffodus mae mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwerthu allan i gwmnïau a sefydliadau preifat y dyddiau hyn, sydd yn ein tyb ni yn sicr o ddilyn bod llai o wasanaeth Cymraeg ar gael. Mae’r ateb yn syml felly, rhowch ddigon o adnoddau ariannol i Gyngor Gwynedd fedru cadw gwasanaethau cyhoeddus yn nwylo’r cyhoedd.”
‘Dysgu Cymraeg’
Dywedodd llefarydd ar ran CCG: “Rydym wedi penodi dau gyfarwyddwr newydd yn dilyn ein proses recriwtio ddiweddar.
“Paul McGrady fydd y Cyfarwyddwr Adnoddau newydd ac Ian Atkinson y Cyfarwyddwr Asedau ac Isadeiledd. Cyn ymuno â CCG roedd Paul yn Bennaeth Cyllid gyda Chyngor Sir Dinbych ac mae’n dysgu Cymraeg, ac Ian yn Gyfarwyddwr Asedau gyda Tai Sir Fynwy.
“Bydd y ddau yn cychwyn yn eu swyddi newydd gyda ni ym mis Mehefin ac ‘rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu yma.”