Pencadlys Cyngor Gwynedd
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Nyffryn Nantlle heno er mwyn trafod a chasglu barn pobol ynglŷn â’r bwriad i godi 8,000 o dai newydd yng Ngwynedd a Môn.
Cymdeithas yr Iaith sy’n cynnal y cyfarfod ac mae’r mudiad yn feirniadol o’r ffordd mae Cyngor Gwynedd wedi mynd ati i ymgynghori ar y cynllun datblygu lleol – yn benodol nad yw’r cyhoedd wedi cael gwybod am sesiynau ymgynghori ar y cynllun.
Yn ogystal â hyn, mae’r mudiad yn siomedig nad oedd swyddogion y cyngor ar gael i siarad â phobol oedd yn llwyddo i ddod i’r sesiynau, bod y dogfennau yn drwchus ac nad oes caniatâd i fynd a nhw adref, bod y gost o’u prynu yn hurt a dyw’r ffurflen adborth “ddim yn berthnasol”.
“Rydym yn rhoi cynnig ar ffordd arall,” meddai Ben Gregory, un o’r siaradwyr yn y cyfarfod, “gwahodd pobol i gyfarfod cyhoeddus, rhoi’r ffeithiau iddyn nhw a gwrando ar eu barn. Caiff y farn hon ei throsglwyddo i Gyngor Gwynedd, a’u penderfyniad hwy wedyn yw ei hystyried neu beidio.”
Y siaradwyr eraill yw Gwion Owain o Benygroes a Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae’r gymdeithas hefyd wedi estyn gwahoddiad am gynrychiolaeth o Gyngor Gwynedd.
Ymchwil
“Os oes tystiolaeth fod angen cynifer â hyn o dai, byddwn yn derbyn hynny,” meddai Menna Machreth.
“Ein cwyn ni hyd yma yw nad oes ymchwil wedi bod i ganfod pwy sydd angen tai, a pha fath o dai sydd angen eu codi.
“Mae’r Cyngor wedi derbyn ffigwr gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd, ac maent yn mynd rhagddynt efo’r ffigwr hwnnw, heb ofyn i bobol leol beth maen nhw ei angen. Ein pryder ni yw y bydd tai diangen yn effeithio ar sefyllfa’r iaith Gymraeg, sydd yn ddigon bregus fel y mae. Tai fforddiadwy i bobl leol sydd ei angen, nid hap-ddatblygu.”
Mae’r Cyngor yn datgan na fydd codi tai yn effeithio ar sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y sir ac mae’r Cyn-Ddeilydd Portffolio Tai a Chynllunio wedi dweud bod y mater yn “risg werth ei chymryd.”
‘Diddordeb’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae’r broses ymgynghori gyhoeddus ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dilyn y gofynion statudol fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r ddau gyngor wedi cymryd camau ychwanegol drwy gynnal sesiynau galw heibio i’r cyhoedd mewn amryw o leoliadau yn ardal y cynllun.
“Mae hyn wedi caniatáu i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun i weld y dogfennau perthnasol a thrafod yn uniongyrchol gyda swyddogion perthnasol.
“Mae’r Cyngor yn croesawu’r diddordeb mae cymunedau lleol a chyfranddeiliaid eraill wedi ei ddangos yn y cynllun arfaethedig ers cychwyn y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus.
“Wrth ymateb i ymholiadau yn ystod y sesiynau galw heibio ac ymholiadau dros y ffon ac ar e-bost, mae Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu cyngor, i anfon copïau o’r dogfennau allai fod o gymorth i sylwadau unigol, i arwain unigolion drwy’r ffurflen sylwadau, ac wedi trefnu i gyfarfod ag unigolion mewn lleoliadau amrywiol.
“Lle mae adnoddau yn caniatáu, mae swyddogion hefyd wedi mynychu cyfarfodydd a drefnwyd gan fyddgyrfanogwyr, megis grwpiau cymunedol, er mwyn darparu gwybodaeth ffeithiol a chyngor.”
Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal heno am 7.30yh yn Neuadd Goffa Penygroes.