Mae David Cameron wedi cytuno i gymryd rhan mewn un dadl ar y teledu gyda arweinwyr y pleidiau eraill yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd ffynonellau Ceidwadol bod y cynnig ar gyfer un ddadl ar ITV, ac sy’n cynnwys saith o arweinwyr, wedi cael ei gynnig gan y darlledwyr ac mae wedi ei dderbyn gan David Cameron dros y penwythnos.
Mae’r Ceidwadwyr wedi honni dod y Blaid Lafur wedi ceisio atal y cynnig, a fyddai’n cymryd lle’r cynlluniau cynharach am dair dadl gan gynnwys un gornest rhwng David Cameron ac Ed Miliband yn unig yn yr wythnos cyn yr etholiad cyffredinol 7 Mai.
Ond mae gwleidydd Llafur wedi diystyru’r honiad gan ddweud nad yw’r blaid wedi derbyn unrhyw wybodaeth am gynlluniau ar gyfer un ddadl sengl rhwng y saith arweinydd.
Yn hytrach, mae Llafur ar ddeall bod y cynnig presennol ar gyfer tair dadl yn parhau i fod ar y bwrdd.
Roedd Llafur eisoes wedi cyhuddo David Cameron o fod ofn y dadleuon teledu ar ôl iddo fynnu i ddechrau fod y Blaid Werdd, ac yna’r DUP o Ogledd Iwerddon, yn cael eu cynnwys.
Dywedodd hefyd ei fod o ond yn barod i gymryd rhan mewn dadlau teledu fyddai’n cael eu darlledu cyn dechrau’r ymgyrch etholiadol yn ffurfiol ar 30 Mawrth.
Roedd y cynnig a gyflwynwyd gan y BBC, ITV, Sky News a Channel 4 ym mis Ionawr yn gweld tair dadl i’w darlledu ar Ebrill 2, 16 a 30, gyda’r ddau gyntaf yn cynnwys David Cameron, Ed Miliband, Nick Clegg, Nigel Farage o UKIP, arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett, Nicola Sturgeon o’r SNP a Leanne Wood o Blaid Cymru.
Byddai’r ddadl derfynol – i’w darlledu gan Sky a Channel 4 – yn gweld David Cameron ac Ed Miliband yn mynd benben a’u gilydd.