Mae cwmni archfarchnadoedd Sainsbury’s wedi cyhoeddi gostyngiad mewn gwerthiant am pumed chwarter yn olynol.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni ei fod yn disgwyl i bethau barhau’n anodd iddyn nhw cyn belled ag y gallan nhw weld.
Mae gan drydydd cwmni archfarchnadoedd mwyaf y Deyrnas Unedig 597 o archfarchnadoedd a 707 o siopau cyfleus ac fe wnaethon nhw gyhoeddi gostyngiad o 1.9% mewn gwerthiant yn y 10 wythnos hyd at 14 Mawrth.
Er hynny, agorodd cyfranddaliadau’r cwmni 2% yn uwch heddiw oherwydd fod y ffigurau gwerthiant diweddaraf yn unol â disgwyliadau’r ddinas a gostyngiad eisoes wedi bod.
Y pedwar mawr ar i lawr
Mae pedwar cwmni archfarchnadoedd mawr gwledydd Prydain – Sainsbury’s, Tesco, Morrisons ac Asda – wedi bod yn colli cyfran fawr o’r farchnad i siopau rhatach fel Aldi a Lidl.
Ym mis Mai, fe fydd Sainsbury’s yn cyhoeddi ei elw blwyddyn lawn cyntaf o dan reolaeth y prif weithredwr newydd Mike Coupe ers iddo olynu Justin King y llynedd,
Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi eu colled gyntaf ar ôl naw mlynedd o dwf – mae dadansoddwyr y ddinas yn disgwyl gweld gostyngiad o hyd at 17% mewn elw.