Mae gweithwyr achub sydd wedi bod yn ceisio cyrraedd Vanuatu yn y Môr Tawel ers i seiclon pwerus daro’r ynysoedd wedi llwyddo i gyrraedd safle’r dinistr.
Difrod yn Vanuatu (AP)
Roedd y cysylltiad ffôn a radio ar rai o’r ynysoedd wedi ei golli’n llwyr ar ôl i seiclon Pam rwygo drwy’r ardal dridiau yn ôl ar gryfder o hyd at 155 milltir yr awr.
Hyd yn hyn, mae adroddiadau fod 11 o bobol wedi’u lladd a dwsinau wedi’u hanafu gan y storm, sydd wedi cael ei galw yn “anghenfil” gan brif weinidog y wlad.
Mae awyrennau o Awstralia wedi cynnal asesiad o Ynys Tanna ac mae’n debygol bod 80% o’r tai a’r adeiladau wedi cael eu dinistrio yn rhannol neu’n llwyr, yn ôl y gweinidog tramor Julie Bishop.
“Rydym ar ddeall bod difrod ledled yr ynysoedd. Mae’n olygfa dorcalonnus,” meddai.