Robert Stuart a Darren Hughes
Mae aelodau o deuluoedd dau ddyn o dde Cymru fu farw ar ôl derbyn arennau oedd wedi’u heintio wedi galw am i argymhellion crwner gael eu gweithredu.

Bu farw Darren Hughes, 42, a Robert Stuart, 67, ychydig ddyddiau ar ôl ei gilydd ar ôl derbyn aren gan ddyn alcoholig a oedd wedi marw o lid yr ymennydd yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dangosodd profion bod llyngyr prin iawn yn eu cyrff ond fe ddywedodd y crwner nad oedd y llawfeddyg yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar fai am y marwolaethau.

Dri mis ar ôl y gwrandawiad, mae’r crwner cynorthwyol Christopher Woolley wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dweud bod materion o fewn yr ysbyty yn parhau heb gael eu hateb.

Newid y system organau

Roedd Christopher Woolley wedi argymell bod Ysbyty Athrofaol Caerdydd a’r Bwrdd Iechyd yn newid y ffordd y maen nhw’n derbyn organau.

Roedd wedi awgrymu bod tîm o feddygon ac ymgynghorwyr yn trafod y mater, yn hytrach nag un ymgynghorydd.

Fe ddywedodd hefyd y dylai ffurflenni caniatâd gael eu hail gyflwyno.

Meddai’r teuluoedd

Dywedodd tad Darren Hughes, Ian Hughes: “Rydym fel teulu yn gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd a’r gwasanaethau trawsblaniad er mwyn gwneud yn siŵr na fydd hyn fyth yn digwydd eto.”

Ychwanegodd gweddw Robert Stuart, Judith: “Rydym yn teimlo na chawsom ni’r cyfle i wneud penderfyniad llawn am nad oedd gyda ni’r holl wybodaeth.”

Mae cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd Dr Graham Shortland wedi dweud bod y Bwrdd yn cefnogi galwad y teuluoedd ac wedi comisiynu ei adroddiad ei hun i weld os oes gwersi i’w dysgu.