Tylluan wen
Mae ymgyrch wedi’i lawnsio i geisio penderfynu ar aderyn “cenedlaethol” i wledydd Prydain, ar ôl i adarwr ddarganfod bod y gwledydd yn un o’r unig lefydd yn y byd sydd heb ei aderyn cenedlaethol ei hun.

Tra bod America hefo’r eryr moel neu’r eryr penwyn, Sweden hefo’r deryn dy, Japan hefo’r ffesant gwyrdd ac India hefo’r paun, roedd David Lindo yn ei chael hi’n anodd credu nad oedd gan Brydain aderyn cenedlaethol.

Fe aeth ati i lansio’r ymgyrch ac erbyn hyn mae dros 70,000 o bobol wedi pleidleisio tros y rhestr fer sy’n cynnwys 10 aderyn – gan gynnwys y cudyll coch, sy’n nythu’n bennaf yng Nghymru, a’r dylluan wen.

Dyma’r rhestr lawn:

* Robin Goch

* Glas y Dorlan

* Titw Tomos Las

* Dryw

* Deryn Du

* Pal

* Cudyll Coch

* Tylluan Wen

* Hebog yr Ieir

* Alarch

Fe fydd y bleidlais yn agored tan 7 Mai, ac mae posib pleidleisio yma.