Ni fydd arweinwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn teithio i Washington ar gyfer dathliadau Dydd San Padrig oherwydd diffyg cytundeb yn Stormont tros ddiwygiadau lles.
Bydd Peter Robinson a Martin McGuinness yn parhau â’u trafodaethau yn y dyddiau nesaf i ddod i gytundeb.
Roedd Peter Robinson eisoes wedi datgan ei fwriad i aros yn Belfast pe na bai cytundeb.
Dywedodd: “Mae’r Tŷ Gwyn yn cytuno mai’r flaenoriaeth yw cynnal y momentwm wrth ddod o hyd i ddatrysiad i’r mater lles.
“Gwell aros yng Ngogledd Iwerddon i fynd i’r afael ag e.”
Mae Martin McGuinness hefyd yn awyddus i ddod i gytundeb yn sgil penderfyniad Sinn Fein i beidio cefnogi deddfwriaeth sydd wedi cael ei chynnig.
Dywedodd: “Rwy wedi penderfynu, er mwyn ceisio symud y sefyllfa yn ei blaen, na fydda i’n teithio i’r Unol Daleithiau i gymryd rhan yn y digwyddiadau i nodi Dydd San Padrig.
“Y flaenoriaeth i fi a fy mhlaid yw dod o hyd i ateb i’r anawsterau sy’n wynebu’r Pwyllgor Gwaith ar hyn o bryd.”
Roedd y ddau wedi’u gwahodd i’r Tŷ Gwyn i gyfarfod â’r Arlywydd Barack Obama a’i ddirprwy Joe Biden.
Mae disgwyl i Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny fynd i Washington ar Fawrth 17.