Mae’r tri llanc o ogledd-orllewin Llundain a gafodd eu dal gan yr awdurdodau yn Nhwrci, wedi cael eu harestio ar ôl dychwelyd i’r DU.
Mae’r llanciau 19 a 17 oed yn cael eu holi ar amheuaeth o gynllwynio i gwblhau gweithredoedd brawychol.
Maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa yn Llundain lle maen nhw’n cael eu holi.
Daw’r digwyddiad diweddaraf wythnosau’n unig wedi i dair merch o Bethnal Green deithio i Dwrci, ac mae lle i gredu eu bod nhw bellach yn Syria yn cynorthwyo’r Wladwriaeth Islamaidd.
Mae cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Cartref San Steffan, Keith Vaz wedi cyfaddef fod y nifer o bobol sy’n bwriadu teithio o wledydd Prydain i Syria lawer iawn uwch nag yr oedden nhw’n ei ragweld.
“Rwy’n croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd gan awdurdodau Twrci.
“Mae angen i ni atal pobol rhag mynd yn y lle cyntaf a dyna pam fod rhaid i rieni fod yn wyliadwrus, ond mae angen cydweithrediad awdurdodau Twrci arnom er mwyn eu hatal rhag mynd ymhellach.
“Rhaid i ni fod yn wyliadwrus. Mae’n amlwg fod llif pobol ifanc i Dwrci er mwyn mynd i Syria ar raddfa lawer iawn mwy nag yr oedden ni wedi’i ragweld.”