Morrisons
Mae archfarchnad Morrisons wedi cyhoeddi colledion o £792 miliwn gyda gwerthiant yn gostwng 5.9% dros y flwyddyn.

Roedd yr archfarchnad, sydd ymhlith y mwyaf ym Mhrydain, wedi dioddef blwyddyn arall o gwymp mewn gwerthiant, gyda’i elw yn gostwng 52% i £345 miliwn yn y flwyddyn hyd at 1 Chwefror.

Mae’r Morrisons wedi cyhoeddi y bydd yn cau 23 o’i siopau lleol, M Local,  sy’n tan berfformio yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Mae eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gau 10 o archfarchnadoedd llai eleni.

Daw’r canlyniadau ddyddiau’n unig cyn i’r prif weithredwr newydd, David Potts, gymryd yr awenau.  Mae gan David Potts 40 mlynedd o brofiad gyda Tesco ac mae’n olynu’r prif weithredwr Dalton Philips.

Cafodd Dalton Philips ei ddisodli flwyddyn ar ôl lansio cynllun gwerth £1 biliwn dros gyfnod o dair blynedd i dorri prisiau er mwyn cystadlu yn erbyn yr archfarchnadoedd eraill.

Roedd Dalton Philips wedi arwain y cwmni ers 2010.

Dywedodd y cadeirydd, Andrew Higginson: “Roedd yr amodau  masnachu’r llynedd yn anodd tu hwnt ac nid ydym yn disgwyl unrhyw newid eleni ond serch hynny, mae Morrisons yn fusnes cryf.”