Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid cynlluniau i gyflwyno sigaréts mewn pecynnau plaen.

Cafodd y cynlluniau sêl bendith Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Mark Drakeford ar ddiwedd mis Ionawr ac fe fydd y bleidlais rŵan yn mynd o flaen Ty’r Arglwyddi’r wythnos nesa’.

Roedd 367 o ASau wedi pleidleisio o blaid y cynlluniau a 113 yn erbyn yn y bleidlais rydd. Roedd 104 o ASau Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn y newidiadau a fydd yn dod i rym ym mis Mai 2016.

Mae ymgyrchwyr gwrth-ysmygu wedi dweud bod y bleidlais gam yn nes at greu cenhedlaeth ddi-fwg a fydd yn arbed miloedd o fywydau:

“Mae’n garreg filltir enfawr a fydd yn mynd yn bell iawn i leihau cyfraddau ysmygu, gwella iechyd y genedl ac achub miloedd o fywydau,” meddai prif weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon, Simon Gillespie.

“Mae gormod o deuluoedd yn colli pobol sy’n annwyl iddyn nhw o ganlyniad i ysmygu.”