Mae Heddlu’r Gogledd wedi dechrau ymgyrch i ddod o hyd i ddyn ger yr afon Dyfrdwy.
Daw wedi i aelod o’r cyhoedd ffonio’r heddlu tua 6:50yh neithiwr gyda phryderon am ddyn oedd yn ymddwyn yn amheus ger y bont las yn Y Fferi Isaf.
Mae’r heddlu a gwylwyr y glannau o’r Wyddgrug a’r Rhyl wedi bod yn chwilio amdano ers neithiwr ac fe wnaeth y chwilio barhau’r bore ma.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.