David Cameron
Mae cyn-gadeirydd y BBC ac ITV, Michael Grade wedi dweud bod y darlledwyr yn torri rheolau’n ymwneud â rhagfarn trwy fygwth cynnal y dadleuon teledu heb Brif Weinidog Prydain, David Cameron.
Mewn erthygl yn y Times, cyhuddodd Grade y darlledwyr o fod yn hunanbwysig ac yn analluog wrth gynnal trafodaethau ynghylch pwy fyddai’n cymryd rhan yn y dadleuon.
“Pwy mae’r darlledwyr yn credu ydyn nhw? Mae eu hymddygiad ynghylch y dadleuon etholiadol yn fy arwain i gredu bod ganddyn nhw syniadau sydd wedi’u chwyddo ac sy’n anghywir o ran eu pwysigrwydd eu hunain.”
Dywedodd fod y darlledwyr yn “chwarae gwleidyddiaeth”.
Nid “ceidwaid democratiaeth” yw’r darlledwyr, meddai.
Dywedodd fod gan Cameron yr hawl i wrthod cymryd rhan, a bod gan bawb yr hawl i wneud “sylw am ei benderfyniad”.
Mae plaid y DUP wedi galw am ddadl yn San Steffan ynghylch y dadleuon teledu.
Dywedodd arweinydd y blaid, Nigel Dodds y dylen nhw gael gwahoddiad os yw’r SNP a Phlaid Cymru’n cael cymryd rhan.
Bydd y ddadl yn dilyn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, lle mae’r dadleuon teledu yn debygol o fod ar frig yr agenda.