Paul Gascoigne
Mae’r cyn bêl-droediwr Paul Gascoigne – neu ‘Gazza’ – wedi dweud wrth yr Uchel Lys yn Llundain fod y sgandal hacio ffonau wedi cyfrannu at ei alcoholiaeth.
Mae Gascoigne, 47, yn rhoi tystiolaeth i’r gwrandawiad sy’n ceisio penderfynu faint o iawndal ddylai wyth o bobol ei dderbyn gan gwmni Mirror Group (MGN).
Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd Gascoigne ei fod yn “gandryll” o ddarganfod fod y papur newydd wedi hacio’i ffôn, a’i fod wedi newid ei ffôn pan sylweddolodd fod rhywbeth o’i le.
“Ro’n i’n gwybod fy mod i’n cael fy hacio gan y Mirror,” meddai.
“Gwnaeth hyn barhau am oesoedd.
“Roedd galwadau i ’nhad a’r teulu’n cael eu blocio felly fe wnes i newid fy ffôn symudol.
“Fe ddigwyddodd eto felly fe wnes i newid ffonau symudol bum neu chwe gwaith y mis.”
Ychwanegodd fod y profiad yn “frawychus”.
Mae Gascoigne yn hawlio bod 18 o erthyglau wedi cael eu hysgrifennu amdano ar sail gwybodaeth a gafodd ei chasglu drwy hacio’i ffôn.
Clywodd y gwrandawiad fod therapydd wedi dweud wrth Gascoigne ei fod yn dioddef o baranoia a’i fod yn dioddef o salwch meddwl.
Ni fydd Gascoigne yn cael ei groesholi yn ystod y gwrandawiad, ac nid yw’r cyfreithwyr ar ran y papur newydd am herio’i dystiolaeth.
Dywedodd Gascoigne fod yr hacwyr “wedi difetha” ei fywyd.