Nicola Sturgeon
Mae ystadegau sydd newydd gael eu cyhoeddi yn dangos bod yr Alban yn talu £400 y pen y flwyddyn yn fwy o drethi na gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.
Mae’r Alban wedi talu mwy o drethi’r pen na gweddill y DU ers 34 o flynyddoedd.
Yn ôl yr ystadegau, mae economi’r Alban wedi gwella’n raddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r diffyg ariannol wedi’i leihau o 9.7% i 8.1% mewn GDP, er gwaetha’r ffaith fod buddsoddiad ym Môr y Gogledd wedi arwain at lai o refeniw o’r diwydiant olew.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon fod y ffigurau’n “dyst i gryfderau cynhenid economi’r Alban”.
Ond ar yr un pryd, galwodd ar San Steffan i ddatganoli pwerau dros greu swyddi i’r Alban.
Yr Alban sy’n cyfrannu’r pedwerydd refeniw uchaf o blith gwledydd a rhanbarthau’r DU – dim ond Llundain, de-ddwyrain Lloegr a dwyrain Lloegr sy’n cyfrannu mwy mewn trethi.
Ychwanegodd Nicola Sturgeon: “Ar gyfartaledd, talodd yr Alban £400 yn fwy mewn trethi y pen i Drysorlys y DU nag unrhyw le arall yn y DU y llynedd.
“Dyna’r 34ain flwyddyn rydyn ni wedi cyfrannu mwy na gweddill y DU ac mae’n dyst i gryfderau cynhenid economi’r Alban.”
Ychwanegodd nad yw’r ffigurau’n dangos gwir botensial yr Alban i dyfu’n economaidd pe bai ganddyn nhw ragor o bwerau.
“Mae gennym y capasiti a’r adnoddau i dyfu’n heconomi, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, tyfu busnesau bychain a rhoi gwaith i fwy o bobol.
“Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen mwy o bwerau economaidd arnom a’r gallu i amddiffyn yr Alban rhag y £14.5 biliwn o doriadau arfaethedig o du San Steffan yn ystod y cyfnod seneddol nesaf.”