Mae nifer y bobol ifanc groenddu neu o leiafrifoedd ethnig sy’n ddi-waith wedi cynyddu o bron i 50% ers i’r Glymblaid fod mewn grym, dangosodd ffigyrau newydd gan y Blaid Lafur.
Mae’r blaid wedi defnyddio’r ffigyrau i ymosod ar gynllun gwaith y Ceidwadwyr, gan ddweud ei fod wedi siomi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.
Honnwyd bod 41,000 o bobol groenddu 18-24 oed wedi bod allan o waith am dros flwyddyn, sy’n un rhan o bump o’r holl bobol ifanc 18-24 oed sy’n ddi-waith yng ngwledydd Prydain.
Budd-daliadau
“Mae’r 49% o bobol ifanc groenddu a lleiafrifoedd ethnig sydd yn ddi-waith yn dangos nad yw cynllun y Ceidwadwyr yn gweithio,” meddai llefarydd y Blaid Lafur ar Waith a Phensiynau, Rachel Reeves.
“Mae’n wastraff o sgiliau’r genhedlaeth nesaf ac mae’n dod ar gost fawr i nifer o bobol groenddu ac o leiafrifoedd ethnig, eu teuluoedd a’r trethdalwyr.
“Byddai Llafur yn cynnig swydd gychwynnol i bob person ifanc sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau am dros flwyddyn – gwaith fyddai’n rhaid iddyn nhw ei dderbyn neu fod mewn peryg o golli budd-daliadau.”