Mae bron i 10% yn fwy o staff rheng flaen yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ers 2004, yn ôl ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd 66,004 o bobol yn gweithio i’r GIG yn 2004 ac fe gynyddodd y ffigwr hwnnw i 72,464 erbyn 2014.

Bu cynnydd o 50% yn nifer yr ymgynghorwyr iechyd o fewn y gwasanaeth, o 721 i 2,270 a nifer y staff deintyddol wedi codi 27.5% ers 2004 i 6,011.

Mae nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth a gwasanaethau ymwelwyr iechyd wedi cynyddu o 28,157 yn 2010 i 28,300 yn 2014, gan gyfrif am 39% o holl staff GIG Cymru.

Roedd cynnydd o 117 (8.2%) yn nifer y staff ambiwlans rhwng 2010 a 2014 i gyrraedd 1,544 yn 2014. Ar 30 Medi 2014, roedd 58.5% o staff ambiwlans yn barafeddygon.

Er hyn, fe wnaeth nifer yr uwch-reolwyr ostwng o 600 yn 2013 i 568 yn 2014.

‘Siomedig’

Ond mae’r blaid Geidwadol yn honni mai gostwng mae nifer y gweithwyr iechyd  mewn gwirionedd ers 2013 – tra bod nifer y staff gweinyddol wedi cynyddu:

“Mae’n siomedig gweld gostyngiad blynyddol yn nifer y staff meddygol ond cynnydd mewn pobol sy’n gwneud gwaith gweinyddol,” meddai Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

“Yn 2013, fe wnaeth Llafur addo rhagor o arian i gyflogi mwy o nyrsys, ond dim ond 84 o nyrsys ychwanegol sydd wedi cael eu cyflogi ar draws Cymru.

“Mae’r gostyngiad mewn nyrsys cymunedol yn benodol yn bryderus. I golli un o bob deg ar amser pan rydym yn clywed fod y byrddau iechyd am ddarparu mwy o ofal cymunedol, nid yw’n gwneud synnwyr.”

‘Gofal gorau posibl’

Ond mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud bod y cynnydd mewn niferoedd staff yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o roi’r “gofal gorau posib i gleifion”.

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae mwy o feddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon a staff deintyddol yn gweithio yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl.

“Ers 2004, mae cynnydd o bron 10% wedi bod yn nifer y staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, gyda chynnydd o bron 50% yn nifer yr ymgynghorwyr ysbyty. Rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol.

“Mae hyn yn arwydd clir o’n hymrwymiad i fuddsoddi mewn staff – ased mwyaf y Gwasanaeth Iechyd – fel rhan o’n penderfynoldeb i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl.”