Ymchwil i glefyd siwgr
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o wyddonwyr sy’n gweithio ar brosiect gwerth £4.4 miliwn i geisio datblygu brechlyn i drin clefyd siwgr.

Mae’r prosiect yn cael ei lansio yn Llundain heddiw ac mae gobaith y bydd y brechlyn cyntaf ar gael mewn clinigau o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Mae tua 300,000 o bobol yn dioddef o glefyd siwgr ym Mhrydain ac fe ddangosodd ymchwil newydd yr wythnos hon bod mwy o blant yn dioddef o glefyd siwgr yng Nghymru nac yn Lloegr.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, fe fydd gwyddonwyr yn gweithio ar ddatblygu treialon immuno-therapy, sef pan mae’r corff yn cael hwb i frwydro yn erbyn clefydau.

‘Gwella bywyd’

“O fewn pedair blynedd rydym yn disgwyl gweld canlyniadau tua chwe gwahanol driniaeth bosib, ac o fewn 10 mlynedd rydym yn gobeithio gweld y brechlyn cyntaf yn cael ei roi i gleifion,” meddai’r Athro Colin Dayan o’r Brifysgol.

Ychwanegodd Dr Alasdair Rankin sy’n gyfarwyddwr ymchwil clefyd siwgr ym Mhrydain: “Mae gan y prosiect yma’r gallu i wella bywydau cannoedd o filoedd o bobol sy’n byw hefo clefyd siwgr math un, yn ogystal ag arwain at wellhad tymor hir.”