Jeremy Clarkson
Mae 130,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar y BBC i ganiatáu i’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson ddychwelyd i’w waith.

Cadarnhaodd y BBC ddoe fod cyflwynydd Top Gear wedi cael ei wahardd dros dro yn dilyn ffrwgwd, ac roedd adroddiadau ei fod wedi “taro” cynhyrchydd yn dilyn ffrae.

Roedd Clarkson eisoes wedi derbyn rhybudd terfynol gan ei gyflogwyr wedi iddo ddefnyddio geiriau hiliol yn ystod pennod o’r rhaglen.

Mae ymchwiliad i’w ymddygiad ar y gweill, ac ni fydd tair pennod nesaf y rhaglen yn cael eu dangos ar BBC2.

Mae papur newydd y Daily Mirror yn dweud mai Oisin Tymon, 36, yw’r cynhyrchydd dan sylw, a bod Clarkson yn anhapus nad oedd bwyd ar gael iddo ar ôl i ffilmio ddod i ben.

Yn dilyn ei waharddiad, trodd Clarkson at wefan Twitter i fychanu Ed Miliband, gan ddweud “Sori Ed. Mae’n ymddangos ’mod i wedi gwthio dy ddarn ‘Dwi’n fod dynol’ i lawr yr agenda newyddion.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach am y gwaharddiad.

Roedd disgwyl i’r bennod nos Sul gynnwys eitem am ddiwrnod ceir clasurol, a’r cyflwynydd teledu Gary Lineker oedd y gwestai arbennig “mewn car o bris rhesymol”.

Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi derbyn nifer o ymholiadau gan y cyhoedd, sy’n honni bod y ffrwgwd rhwng Clarkson a’r cynhyrchydd wedi digwydd yn y sir.

Ond cadarnhaodd yr heddlu nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gwynion.