Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio heddiw ar gynlluniau dadleuol i gyflwyno sigaréts mewn pecynnau plaen.
Roedd grymoedd ar gyfer cyflwyno pecynnau plaen yn y Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 ond mae’n rhaid i Dy’r Cyffredin gymeradwyo dod a nhw i rym.
Cafodd y rheoliadau eu trafod gan bwyllgor yn gynharach yr wythnos hon ac fe fydd pleidlais rydd yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.