Mae’r Mesur Trais yn erbyn Merched wedi cael ei gymeradwyo gan Aelodau Cynulliad heb unrhyw wrthwynebiadau.

Roedd y gwrthbleidiau wedi bygwth pleidleisio yn erbyn y mesur os nad oedd ysgolion yn cael eu gorfodi i ddysgu disgyblion am oddefgarwch, parch, cydraddoldeb a pherthnasau iach.

Mewn ymateb i’r mesur newydd, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Sophie Howe:

“Mae trais yn erbyn merched yn broblem enfawr ar hyd de Cymru, gyda’r gyfradd o ymosodiadau ymysg yr uchaf ym Mhrydain. Fe wnaeth Heddlu De Cymru ddelio a dros 27,000 o achosion domestig yn 2012/13, gyda nifer ohonyn nhw yn bobol oedd yn cael eu cam-drin dro ar ôl tro.

“Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn helpu gwasanaethau cyhoeddus Cymru i ganolbwyntio ar beth allen nhw’i wneud i daclo trais yn erbyn merched er mwyn darparu gwell mynediad i wasanaethau cefnogol.

“Mae llawer iawn mwy o waith i’w wneud ond mae’r cyhoeddiad heddiw yn hwb mawr ac mae angen llongyfarch pawb sydd wedi ymgyrchu amdano a’i wneud yn reality.”