Mae tagfeydd difrifol wedi bod ar yr A55 prynhawn ma yn dilyn dwy ddamwain.

Bu farw dyn mewn damwain rhwng dwy lori, fan a cherbyd arall am 8.30yb  bore yma yn Llansansior ger Abergele, ac roedd  damwain arall ar yr A55 wedi cau rhan o’r ffordd yn ddiweddarach.

Fe wnaeth lori a chwe char wrthdaro yn Llanelwy ger cyffordd 31 tua 2:40yp meddai Heddlu Gogledd Crymu gan achosi tua 7 milltir o dagfeydd.

Credir bod dynes wedi cael ei thorri’n rhydd o’i char a bod dwy ddynes arall wedi cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae rhybudd am dagfeydd ar yr A55 heno.