Mae gweinidogion Llywodraeth y DU eisiau “tawelu” cyn bennaeth HSBC, yr Arglwydd Green, rhag datgelu os oedd o wedi trafod osgoi talu treth gyda George Osborne, meddai Llafur.
Dywedodd Shabana Mahmood AS y dylai’r Arglwydd Green naill ai ymddangos o flaen pwyllgor seneddol neu wneud datganiad yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn dod a diwedd i’r mater.
Dywedodd wrth ASau bod camau o’r fath yn angenrheidiol gan nad oedd y Canghellor na gweinidogion y Trysorlys wedi rhoi “ateb syml”.
Wrth ateb, dywedodd ysgrifennydd ariannol y Trysorlys, David Gauke, nad oedd y Llywodraeth yn “ofni unrhyw beth” y gall yr Arglwydd Green ei ddweud.
Mae George Osborne, a oedd yn absennol o gwestiynau’r Trysorlys yn Nhy’r Cyffredin heddiw, eisoes wedi datgan nad oedd yn ymwybodol o honiadau bod cangen banc HSBC yn y Swistir wedi cydgynllwynio gyda chwsmeriaid i osgoi talu treth ar y pryd a chafodd ei gyn-gadeirydd yr Arglwydd Green ei benodi fel gweinidog masnach y Llywodraeth.