Philip Hammond
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi beirniadu’r rhai sy’n ceisio gwneud “esgusodion” ar ran brawychwyr Islamaidd drwy roi’r bai ar asiantaethau cudd-wybodaeth Prydain am radicaleiddio’r dyn sy’n cael ei adnabod fel Jihadi John.
Mewn araith brin ar yr asiantaethau cudd-wybodaeth, mae Philip Hammond wedi amddiffyn eu gwaith gan ddweud mai dim ond eu harbenigedd sydd wedi cadw Prydain yn ddiogel yn wyneb bygythiad brawychol parhaus.
Mae’n debyg fod ei sylwadau wedi’u cyfeirio at bobl fel Asim Qureshi o’r grŵp ymgyrchu, Cage, a ddywedodd mai ymgais MI5 i recriwtio Mohammed Emwazi – sy’n cael ei adnabod fel Jihadi John – arweiniodd ato’n cael ei radicaleiddio.
Mae’r asiantaethau cudd-wybodaeth hefyd wedi wynebu beirniadaeth oherwydd bod Mohammed Emwazi wedi cael teithio i Syria, er bod MI5 wedi bod yn ymwybodol ohono ers 2008.
Wrth siarad yn Llundain, dywedodd Philip Hammond – sy’n gyfrifol am MI6 a GCHQ – bod yr asiantaethau yn wynebu bygythiadau “digynsail” o bedwar ban byd ar hyn o bryd.
Dywedodd fod yn rhaid iddyn nhw drin â grwpiau brawychol rhyngwladol yn ogystal ag unigolion sy’n gweithredu ar eu pen eu hunain.
Ar yr un pryd fe gyfeiriodd at y bygythiad newydd o Rwsia ar ôl blynyddoedd o geisio gwella’r berthynas yn dilyn diwedd y Rhyfel Oer.
Ychwanegodd bod “natur dirgel” y bygythiadau yn tanlinellu’r angen i Brydain gynnal asiantaethau cudd-wybodaeth effeithiol i nodi, monitro a gweithredu yn eu herbyn.