Traffordd yr M4
Bydd Cyfeillion y Ddaear Cymru yn mynd i’r llys heddiw er mwyn herio cynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu darn newydd o draffordd i’r de o Gasnewydd.
Bydd y barnwr Mr Ustus Hickinbottom yn clywed yr achos dros y tridiau nesa i weld os oes gan Gyfeillion y Ddaear achos i gynnal Adolygiad Barnwrol o’r cynlluniau.
Gall cost y ffordd newydd fod cymaint â £1 biliwn ac mae Cyfeillion y Ddaear yn dweud bod hynny yn wastraffus.
Mae’r mudiad amgylcheddol wedi dweud fod traffig yng Nghymru 3% yn llai heddiw o’i gymharu â 2007 – mewn cyferbyniad llwyr i’r cynnydd disgwyliedig gan Lywodraeth Cymru.
Maen nhw hefyd pryderu y bydd y draffordd newydd yn amharu ar ardal sy’n cynnwys nifer o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ogystal ag Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg.
Meddai Gareth Clubb, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, fod gan y Llywodraeth “ddyletswydd i warchod y safleoedd hyn, ac edrych yn ofalus ar ddewisiadau eraill yn hytrach na’u dinistrio.”
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod nhw wedi ystyried y cynlluniau yn ofalus cyn penderfynu.