Corey Price
Bydd Academi Pêl-Droed Dinas Caerdydd yn cynnal munud o dawelwch heno er cof am y pedwar o bobl fu farw mewn damwain ger Aberhonddu nos Wener.

Cafodd dau o ddisgyblion Ysgol Bro Morgannwg – Rhodri Miller a Corey Price, y ddau’n 17 oed ac o’r Barri – eu lladd wedi i ddau gar wrthdaro ar yr A470  ger y Storey Arms nos Wener.

Bu farw merch 17 oed o’r Barri, Alesha O’Connor, a dynes 68 oed o Ferthyr Tudful, Margaret Challis, hefyd ac mae tri pherson yn yr ysbyty.

Roedd Rhodri Miller yn gefnogwr brwd o dîm Dinas Caerdydd ac roedd ganddo docyn tymor. Roedd Corey Price yn arfer chwarae i Academi’r clwb am wyth mlynedd.

Meddai clwb pêl droed Caerdydd mewn datganiad y byddan nhw’n  cofio am Corey, Rhodri, Alesha a Margaret cyn rownd gynderfynol Cwpan Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn erbyn Casnewydd heno.

Bydd y “timau, staff, swyddogion a chefnogwyr” yn dod at ei gilydd i nodi munud o dawelwch cyn y gic gyntaf.

James McCarthy yw rheolwr yr Academi, a dywedodd fod Corey yn bêl-droediwr “dawnus”.

Meddai: “Roedd hi’n bleser ei gael o gwmpas ac roedd hi’n fraint chwarae rhan yn natblygiad pêl-droed, academaidd a phersonol Corey. Bydd colled ar ei ôl.”

Bydd y gêm yn cael ei chwarae ym Mharc Jenner, Y Barri, heno am 7.30yh.