George Williams, ar y chwith
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi derbyn ergyd arall ar ôl i Fulham gadarnhau y bydd yr asgellwr George Williams allan am hyd at chwe mis.

Fe anafodd Williams gymalau yn ei ben-glin wrth chwarae i MK Dons ar fenthyg, ac mae’r sganiau bellach wedi cadarnhau’r gwaethaf.

Bydd y Cymro 19 oed nawr yn methu gweddill y tymor, gydag amheuon o hyd a fydd e’n holliach ar gyfer dechrau’r tymor newydd ym mis Awst.

Mae hynny’n golygu ei fod yn sicr o fethu gemau rhagbrofol Cymru yn erbyn Israel ar 28 Mawrth a Gwlad Belg ar 12 Mehefin.

Dangos addewid

Fe enillodd George Williams ei gap cyntaf dros Gymru llynedd pan ddaeth ymlaen fel eilydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.

Ers hynny mae wedi chwarae rhan ym mhob un o bedwar gêm ragbrofol Cymru hyd yn hyn yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2016.

Mae’n cael ei ystyried yn un o sêr y dyfodol i’r tîm cenedlaethol, ac fe fyddai wedi disgwyl bod yn y garfan ar gyfer y trip i Israel yn hwyrach yn y mis.

Mae’r newyddion am Williams yn golygu bod rhestr anafiadau Coleman yn cynyddu cyn iddo baratoi i enwi’r garfan honno wythnos nesaf.

Fydd y chwaraewr canol cae Emyr Huws ddim yn ffit ar gyfer y gêm ar ôl cael anaf difrifol i’w bigwrn, a bydd Paul Dummett hefyd yn methu gêm Israel, tra bod James Chester dal heb wella ar ôl datgymalu ei ysgwydd ym mis Ionawr.

Dydi Jonathan Williams heb chwarae ers iddo gael ei anafu wrth chwarae i Gymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina ym mis Hydref, ond mae e bellach nôl yn ymarfer gyda Crystal Palace.

Mae ambell chwaraewr arall gan gynnwys Joe Allen hefyd yn cario man anafiadau, ond does dim disgwyl ar hyn o bryd y bydd yn rhaid iddo fethu’r gêm yn Israel.