Ed Balls
Dyw ffurfio clymblaid gyda’r SNP ddim yn rhan o gynlluniau Llafur ar ôl yr etholiad cyffredinol, meddai Ed Balls heddiw.

Mae llefarydd y blaid ar y Trysorlys, Ed Balls, ac aelodau blaenllaw eraill o fewn y blaid, wedi dod o dan bwysau cynyddol i roi diwedd ar y dyfalu y gall y ddwy blaid ddod i gytundeb.

Mae’n dilyn arolwg barn gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf oedd yn  awgrymu y gall yr SNP gipio nifer fawr o seddi oddi wrth y Blaid Lafur yn yr Alban.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y dylai arweinydd y blaid, Ed Miliband ddweud yn gyhoeddus na fydd yn taro bargen gyda’r SNP, ac mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi poster heddiw sy’n dangos Ed Miliband ym mhoced cyn arweinydd yr SNP, Alex Salmond.

Pan ofynnwyd iddo heddiw a fyddai’n cadarnhau nad oedd clymblaid am fod gyda’r SNP, dywedodd Ed Balls: “Mae’r SNP wedi dweud nad ydyn nhw eisiau clymblaid. Dyw clymblaid ddim yn rhan o’n cynlluniau ni. Nid ydym ni eisiau un, nid oes angen un arnom ni,  ac nid ydan ni’n chwilio am un.”

Awgrymodd Ed Balls bod y Ceidwadwyr yn codi’r posibilrwydd o gytundeb rhwng Llafur a’r SNP er mwyn ddargyfeirio sylw oddi wrth David Cameron sydd wedi gwrthod cymryd rhan mewn tair dadl deledu rhwng arweinwyr y pleidiau, ac o gynlluniau’r Torïaid i dorri gwariant cyhoeddus.

Dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson: “Mae’r arolygon barn yn parhau i ddangos pa mor amhoblogaidd yw Llafur yn yr Alban. Mae pobl am i’r Alban gael llais pwerus yn San Steffan, a dim ond tîm cryf o Aelodau Seneddol yr SNP fyddai’n gallu cyflawni’r newid y mae pobl yr Alban am ei weld.”