natalie bennet
Natalie Bennett (PA)
Fe fydd arweinydd y Blaid Werdd yn dweud y bydd yn chwilio am greu cynghrair “flaengar” os bydd yna senedd grog ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
Fe fyddai hynny’n sicr yn cynnwys yr SNP yn yr Alban ac fe allai hefyd gynnwys aelodau o Blaid Cymru.
Fe fydd y Gwyrddion yn ceisio creu system sy’n “rhoi pobol yn gynta’” meddai Natalie Bennett ar drothwy cynhadledd wanwyn y blaid yn Lerpwl.
Fe fyddai hynny’n golygu cynnig “gobaith a newid gwirioneddol”, meddai, gan ddarogan y gallai’r Gwyrddion ennill nifer o seddi a chael dylanwad yn San Steffan.
Cynnydd
Mae’r Gwyrddion wedi codi’n gyflym yn y polau piniwn yn ddiweddar ac maen nhw’n dweud bod aelodaeth wedi codi hefyd i 55,000 o bobol a llawer yn bobol ifanc.
Fe ddywedodd unig Aelod Seneddol y blaid ar hyn o bryd y bydden nhw’n dal i ymgyrchu’n frwd, er gwaetha’r gobaith o gael clymblaid.
“Wrth gwrs, yn yr Alban ac yng Nghymru, fe fyddwn yn ymladd yn galed tros ein gwerthoedd a’n polisïau arbennig,” meddai Caroline Lucas.