Mae achos llys yng Nghaerdydd yr wythnos nesa’ yn un “o bwys cenedlaethol mawr”, meddai mudiad gwyrdd.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru’n herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i godi M4 newydd ar draws Gwastadeddau Gwent ger Casnewydd.
Yn ôl y mudiad, dydyn nhw ddim wedi ystyried yn iawn yr effaith ar ardaloedd pwysig o ran cadwraeth a bywyd gwyllt.
Fe fydd yr adolygiad o flaen barnwr Uchel Lys yn dechrau yng Nghaerdydd ddydd Mawrth ac yn parhau am dri diwrnod.
‘Gwastraffus’
Mae llwybrau rhatach a llai ymwthiol wedi cael eu cynnig ar gyfer datblygu’r draffordd newydd ond mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru.
Maen nhw’n dweud bod y draffordd newydd yn angenrheidiol i atal problemau traffig ar y ffordd i mewn ac allan o dde Cymru.
“Oes gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gau ei lygaid rhag y dystiolaeth lethol yn erbyn gwastraffu £1 biliwn o arian cyhoeddus ar brosiect gwastraffus,” meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y penderfyniad disynnwyr yma’n cael ei roi gerbron barnwr annibynnol.”