Rolf Harris
Mae’r cyn ddiddanwr Rolf Harris wedi colli ei anrhydedd CBE, yn ôl cyhoeddiad swyddogol yn y London Gazette.
Cafodd Harris, 84 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis o garchar ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl ei gael yn euog o 12 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferched.
Roedd naw o’r 12 cyhuddiad, yn erbyn pedair merch wahanol, wedi digwydd rhwng 1968 ac 1985, a thri arall yn 1986.
Roedd un o’r merched yn ffrind i’w ferch, Bindi, a’r ddioddefwraig ieuengaf yn saith neu wyth oed.
Roedd y Frenhines wedi gorchymyn bod Harris yn colli’r anrhydedd. Fe gafodd y CBE yn 2006.
Mae Rolf Harris eisoes wedi colli ei gymrodoriaeth gyda’r gymdeithas ffilm a theledu, BAFTA a gradd brifysgol er anrhydedd, a nifer o anrhydeddau yn ei wlad enedigol, Awstralia.