Syr Malcolm Rifkind
Mae Syr Malcolm Rifkind wedi dweud y bydd yn camu lawr o’i swydd fel cadeirydd y Pwyllgor Cudd-Wybodaeth a Diogelwch yn syth, ar ôl honiadau ei fod wedi derbyn arian am ei amser.
Ond fe ddywedodd y byddai’n parhau i fod yn aelod o’r pwyllgor, ar ôl mynnu na fyddai’r honiadau yn effeithio ar ei waith.
Cadarnhaodd y cyn-ysgrifennydd tramor y bydd hefyd yn camu lawr fel Aelod Seneddol ar ôl etholiad cyffredinol 2015.
Daw hyn ar ôl i raglen Dispatches ar Channel 4 neithiwr honni fod Malcolm Rifkind yn barod i dderbyn arian am ei amser, gan ddangos fideos o’r gwleidydd yn cyfarfod â busnes ffug o Tsieina.
Cafodd y cyn-ysgrifennydd tramor Jack Straw hefyd ei ddal ar gamera gan y rhaglen yn trafod defnyddio ei ddylanwad er budd cwmni preifat.
Ond mae’r ddau wedi gwadu’r honiadau gan ddweud nad oedden nhw’n torri unrhyw reolau seneddol wrth wneud hynny.
Camu lawr
Mewn datganiad ar ddydd Mawrth fe ddywedodd Syr Malcolm Rifkind, yr AS dros Kensington a Chelsea, y byddai’n camu lawr o gadeiryddiaeth y pwyllgor ond yn parhau’n aelod.
Mae Stryd Downing eisoes wedi dweud na fydd Malcolm Rifkind yn sefyll fel AS yn etholiad 2015.
“Does gan y mater presennol yr ydwyf yn cael ei gysylltu ag ef ddim i’w wneud â fy ngwaith fel cadeirydd Pwyllgor Cudd-Wybodaeth a Diogelwch y Senedd,” meddai Malcolm Rifkind mewn datganiad.
“Fodd bynnag, rydw i wedi rhoi gwybod i fy nghydweithwyr heddiw y byddaf yn camu lawr o’r gadeiryddiaeth, er y byddaf yn parhau yn aelod o’r pwyllgor.”