Dywed Heddlu’r De fod  tân mewn adeilad gwag yn ardal  Sblot, Caerdydd bellach wedi’i ddiffodd, ond bod rhai ffyrdd yn parhau ar gau am y tro.

Bu diffoddwyr tân yn parhau i ymladd y tân dros nos mewn hen neuadd bingo ar Stryd Pearl, yn Sblot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tan tua 12:40 prynhawn dydd Llun.

Cafodd pobl eu symud o adeiladau cyfagos a chafodd trigolion lleol eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau, ac i aros yn eu cartrefi.

Mae ffyrdd cyfagos gan gynnwys Stryd Agate, Stryd Pearl a Heol Sblot yn parhau ar gau.

Mae ymchwiliad yr heddlu i achos y tân yn parhau.