David Cameron
Mae David Cameron wedi gwrthod galwadau i gyflwyno gwelliant i wahardd erthylu ar sail rhyw babi, gan ddweud fod y bod y ddeddfwriaeth bresennol yn ddigon cadarn.
Mae dros 100 o ASau wedi datgan cefnogaeth i wneud gwelliant i’r Bil Troseddau Difrifol fel nad yw rhywun yn medru erthylu babi am nad ydyn nhw’n hapus gyda’i ryw – mater sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma.
Yr AS Ceidwadol Fiona Bruce sydd wedi cyflwyno’r gwelliant.
Ond fe ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o am bleidleisio yn erbyn newid y Bil.
“Rwy’n cefngoi’r status quo lle mae erthylu ar sail rhyw yn anghyfreithlon,” meddai.
“Mae achosion prin lle mae erthylu yn cael ei ganiatáu os yw am osgoi trosglwyddo cyflwr genetig. Rwy’n cefnogi hynny ac mi fydda’ i yn pleidleisio i barhau gyda’r status quo yma.
“Rwy’n gobeithio y bydd rheolau ar erthylu yn cael eu goruchwylio yn ofalus ac y bydd pobol yn cael eu dedfrydu os ydyn nhw’n torri’r gyfraith.”