David Cameron, Ed Miliband, Nick Clegg, Nigel Farage, Nicola Sturgeon, Leanne Wood, Natalie Bennett
Mae trefn y dadleuon teledu rhwng arweinwyr y saith plaid wleidyddol yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol wedi cael eu cyhoeddi.

Yn ôl yr amserlen, bydd y ddadl gyntaf yn cael ei darlledu ar ITV ar Ebrill 2 a bydd yr ail ddadl ar y BBC ar Ebrill 16. Bydd y drydedd ddadl, rhwng David Cameron ac Ed Miliband yn unig, yn cael ei chynnal ar Ebrill 30 a bydd yn cael ei darlledu ar Sky News a Channel  4.

Y saith plaid fydd yn cymryd rhan yw’r Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, yr SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd.

Ond er gwaetha’r cyhoeddiad, does dim sicrwydd y bydd y dadleuon yn digwydd o gwbl.

Dyw David Cameron heb gadarnhau y bydd yn cymryd rhan ynddyn nhw ar ol iddo  leisio ei anniddigrwydd nad yw’r blaid o Ogledd Iwerddon, y DUP, wedi cael eu cynnwys.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi dweud eu bod yn anhapus gyda’r penderfyniad o eithrio Nick Clegg o’r drydedd ddadl.