Mae prif weithredwr HSBC Stuart Gulliver wedi cyfaddef ei fod yn “siomedig” ar ôl i elw blynyddol y banc ostwng 17%.
Fe wnaeth y cwmni £12.1 biliwn o elw yn 2014, ond roedd disgwyl iddo wneud mwy ac mae pris cyfrannau HSBC wedi gostwng 3% y bore ma.
Daeth y cyhoeddiad yn dilyn y datgeliad fod gan Stuart Gulliver gyfrif banc cudd yn y Swistir i gadw ei daliadau bonws.
Meddai Stuart Gulliver ei fod wedi datgan ei gyfrif banc yn y Swistir i awdurdodau treth y DU am nifer o flynyddoedd.