Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind
Mae dau gyn ysgrifennydd tramor yn wynebu honiadau eu bod nhw wedi defnyddio ei dylanwad er budd cwmni preifat yn gyfnewid am daliadau o filoedd o bunnoedd.

Mae Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind wedi cael eu henwi fel rhan  o ymchwiliad gan y Daily Telegraph a rhaglen Dispatches ar Channel 4.

Mae’r ddau yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Cafodd y ddau AS eu ffilmio’n gudd gan newyddiadurwyr oedd yn honni eu bod yn cynrychioli dwy asiantaeth gyfathrebu yn Hong Kong a oedd eisiau penodi dau wleidydd amlwg o Brydain i’w bwrdd cynghori.

Yn ystod un cyfarfod dywedodd Jack Straw ei fod wedi defnyddio ei ddylanwad i newid rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar ran cwmni a oedd yn ei dalu £60,000 y flwyddyn.

Honnir hefyd bod y cyfarfodydd i drafod gwaith ymgynghorol posib wedi cael eu cynnal yn ei swyddfa yn Nhŷ’r Cyffredin – sy’n groes i reolau’r Tŷ.

Roedd Syr Malcolm Rifkind wedi honni y gallai drefnu cyfarfodydd gydag “unrhyw lysgennad rwy’n dymuno ei weld” yn Llundain oherwydd ei statws.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod Jack Straw wedi cytuno i gyfeirio ei achos at  Gomisiynydd Safonau’r Senedd a’i fod hefyd “wedi cytuno mai’r cam orau fyddai gwahardd ei hun o’r Blaid Lafur.” Mae’n bwriadu camu o’i swydd fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Downing Street hefyd wedi dweud bod Syr Malcolm Rifkind wedi cyfeirio ei hun at  Gomisiynydd Safonau’r Senedd ac y byddai’n cwrdd â Phrif Chwip y Blaid Geidwadol yn ddiweddarach heddiw.