Mae pris petrol yn cynyddu’n raddol unwaith eto gyda litr o betrol nawr yn costio 108.28 ceiniog y litr ar gyfartaledd – bron i 2 geiniog y litr yn fwy nag yr oedd ar Chwefror 1.

Gyrwyr Cymru a Gorllewin y Midlands yn Lloegr sy’n talu fwya’ – tua 0.5c yn fwy y litr na’r cyfartaledd.

Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd gan y sefydliad moduro AA, mae litr o disel hefyd wedi codi i 115.06 ceiniog o’i gymharu â 113.42 ceiniog ddechrau’r mis.

Ond ychwanegodd y sefydliad bod gyrwyr wedi dechrau cwyno am brisiau wedi i’r prisiau mewn rhai gorsafoedd godi 1 ceiniog y naill ddydd ar ôl y llall.