Cameron Comey
Fe fydd cyfarfod gweddi’n cael ei gynnal mewn eglwys yng Nghaerfyrddin y bore yma wrth i’r chwilio am fachgen 11 mlwydd oed barhau am y pedwerydd diwrnod.
Mae disgwyl i weinidogion a ficeriaid lleol o bob enwad gasglu yn Eglwys San Pedr yn y dref am 10 y bore, ac mae’r cyhoedd wedi cael eu gwahodd yno hefyd.
Cafodd Cameron Comey o Gaerfyrddin ei weld y tro diwetha’ yn chwarae gyda’i frawd ger yr afon yn ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth.
Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ger yr afon rhwng 2 a 4 brynhawn dydd Mawrth ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.
Ailddechrau chwilio
Bydd yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd yn ail-ddechrau chwilio am y bachgen y bore ma.
Ddoe, ymunodd deifwyr o Heddlu De Cymru yn y chwilio yn ogystal â hofrennydd yr heddlu.
Ar ddiwedd y chwilio ddoe, dywedodd yr Arolygydd Eric Evans o Heddlu De Cymru bod 50 o bobol yn rhan o’r chwilio a’u bod yn cynnal “chwiliad trylwyr” o’r ardal ac yn dilyn pob trywydd er mwyn dod o hyd iddo.