Mae’n bosib fod cannoedd o filoedd o yrwyr wedi talu miliynau o bunnoedd yn ddiangen i landlordiaid preifat.
Yn ôl adroddiad gan Sefydliad yr RAC does gan berchnogion preifat – fel archfarchnadoedd neu barciau siopa – ddim hawl i roi cosb ar bobol am barcio’n rhy hir.
O ganlyniad, fe allai miloedd ar filoedd o bobol fod â hawl am iawndal, medden nhw – yn 2013, roedd gyrwyr wedi talu £100 miliwn mewn cosbau o’r fath.
Cosb nid iawndal
Roedd y Sefydliad wedi cael adroddiad gan y bargyfreithiwr John de Waal yn dweud fod gan berchnogion preifat hawl i ofyn am iawndal am golled, ond nid i gosbi.
Fe fyddai’r math o brisiau sy’n cael eu codi gan archfarchnadoedd a pharciau siopa yn llawer mwy na hynny, meddai.
O ganlyniad, maen nhw yr un peth â chosb ac felly yn methu â chael eu gorfodi gan berchnogion preifat.
Fe ddywedodd hefyd ei bod yn torri cyfreithiau masnach Ewrop i wneud cynigion i ostwng dirwyon parcio am dalu’n gynnar.