Roedd chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf o 0.3% ym mis Ionawr, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.

Roedd prisiau bwyd a phetrol wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod.

Nid yw’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi bod mor isel ers i gofnodion ddechrau yn 1989, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod lefel isel chwyddiant yn “garreg filltir i’r economi ym Mhrydain” a’i fod yn newyddion da i deuluoedd.

Mae’r gystadleuaeth rhwng archfarchnadoedd wedi golygu bod prisiau bwyd a diodydd meddal wedi gostwng 2.5%, gyda gostyngiad o 3.5% ym mhrisiau llaeth.

Roedd costau trafnidiaeth wedi gostwng  2.8%  gyda phrisiau petrol wedi gostwng 8.5c y litr ar gyfartaledd ym mis Ionawr a disel wedi gostwng 7.3c.

Mae prisiau cwrw hefyd wedi gostwng.