Mae dau ddyn – un o Swydd Gaerlŷr ac un arall o Bortiwgal – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth dau o bobol trwy yrru’n beryglus.
Cafodd y ddau – y naill yn ei 20au a’r llall yn ei 40au – eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a bws mini yn Swydd Stafford y bore ma.
Cafodd dau o bobol eu lladd a chwech o bobol eu hanafu yn dilyn y gwrthdrawiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd A511 ger Burton-on-Trent toc cyn 7 o’r gloch, ac fe fu farw’r ddau yn y fan a’r lle.
Cafodd dyn yn ei 20au ei gludo i’r ysbyty yn Nottingham ag anafiadau difrifol i’w ben, a chafodd dyn arall ei gludo i’r ysbyty yn Burton â phoen yn ei frest.
Mae pedwar o bobol eraill wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Burton am fân anafiadau.