Mae undeb llafur wedi rhybuddio y gallai gweithwyr olew ym Mor y Gogledd fynd ar streic tros amodau gwaith.
Mae Unite yn rhybuddio fod contractwyr yn defnyddio’r gostyngiad ym mhris olew i gyflwyno newidiadau i gytundebau pensiwn, oriau shifftiau a thaliadau salwch.
Mae’r gweithwyr sy’n ystyried streicio yn cynnwys trydanwyr, plymars, peirianwyr a rigwyr. Fe fyddan nhw’n pleidleisio tros weithredu’n ddiwydiannol.
Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno gan gontractwyr yn “cymryd mantais o’r sefyllfa”, meddai swyddog undeb Unite, Tommy Campbell.
“Rydan ni am i’r contractwyr weithio gyda ni er mwyn gwarchod swyddi a sgiliau, yn hytrach na chyflwyno’r newidiadau hyn sydd ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir.
“Mi fyddan nhw’n cael effaith ar weithwyr a’u teuluoedd.
“Fe fydd prisiau olew yn codi eto, ond fe fydd effaith y newidiadau yma i swyddi ac amodau gwaith yn tanseilio’r diwydiant yn y tymor hir.”