Mae’r Blaid Lafur wedi disgrifio honiadau bod Ed Miliband wedi osgoi talu treth fel “celwydd noeth”.
Mae’r honiadau yn ymwneud â gwerthiant cyfran arweinydd y blaid o hen gartref ei rieni.
Mae Ed Miliband wedi cadarnhau bod ei fam, Marion, wedi sefydlu trefniant perchnogaeth newydd gyda’r tŷ yn dilyn marwolaeth ei dad Ralph.
Dywedodd y Daily Mail bod y trefniant newydd yn caniatáu i berchnogaeth yr eiddo gael ei rannu rhwng Marion Miliband a’i meibion. Mae’r papur newydd hefyd yn dyfynnu arbenigwyr sy’n honni y gall trefniant o’r fath gael ei ddefnyddio i leihau treth etifeddiaeth pan fydd y fam yn marw.
Fodd bynnag, mae Ed Miliband wedi gwerthu ei gyfran o’r tŷ i’w frawd David, sydd hefyd wedi prynu gweddill yr eiddo gan ei fam.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod Ed Miliband wedi talu 40% o dreth ar ôl gwerthu ei siâr o’r tŷ gan ychwanegu bod unrhyw awgrym ei fod wedi defnyddio’r trefniant i osgoi talu treth yn “gelwydd noeth”.
Targedu fôts
Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i siarad gyda hanner miliwn o bleidleiswyr yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mae Llafur ar hyn o bryd yn dal 26 o’r 40 o seddi yng Nghymru ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n targedu wyth arall yn yr etholiad.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad wrth i Gynhadledd Gymreig y blaid ddechrau yn Abertawe heddiw. Bydd Ed Miliband a Carwyn Jones yn annerch y gynhadledd yfory.