Mae banc mwyaf Prydain, HSBC, yn wynebu honiadau ei fod wedi helpu cwsmeriaid i osgoi talu trethi drwy dwyll, ar ôl i fanylion miloedd o gwsmeriaid gael eu datgelu.
Mae’r dogfennau eisoes wedi arwain at gynnal ymchwiliadau troseddol mewn nifer o wledydd ar ôl i weithiwr TG ddwyn y manylion yn 2007 a’u rhoi i’r awdurdodau yn Ffrainc.
Bellach mae manylion 30,000 o gwsmeriaid gydag asedau o £78 biliwn wedi cael eu rhoi yn nwylo papur newydd yn Ffrainc.
Yn ôl adroddiadau ar raglen Panorama’r BBC a’r Guardian mae’n cynnwys tystiolaeth bod y banc wedi helpu rhai cwsmeriaid i osgoi talu trethi yn eu gwledydd eu hunain.
Mae gwleidyddion, sêr y byd chwaraeon a ffilm, yn ogystal â throseddwyr ymhlith yr enwau sydd wedi cael eu datgelu yn y dogfennau.
Honnir bod rhai wedi celu asedau mewn cyfrifon banc cudd HSBC yn y Swistir er mwyn osgoi talu trethi.
Yn ôl y BBC mae’r dogfennau yn cynnwys manylion bron i 7,000 o gwsmeriaid ym Mhrydain.
Dywed HSBC ei fod wedi cymryd nifer o gamau dros y blynyddoedd diwethaf i gyflwyno diwygiadau i fynd i’r afael a’r methiannau blaenorol.