Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i ddyn gael ei saethu’n farw yn Lerpwl neithiwr.

Cafodd y dyn ei saethu yn ei gefn yng nghanol y ddinas oddeutu 8.30yh, ac fe fu farw yn yr ysbyty’n diweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi eu bod nhw’n ceisio darganfod pam y cafodd y dyn ei lofruddio.

Roedd rhannau o’r ddinas ynghau dros nos tra bo’r ymchwiliad fforensig yn parhau.