Fe allai’r Alban ddilyn esiampl Cymru a chyflwyno deddf fyddai’n cymryd yn ganiataol fod pobl yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw.

Mae Bil wedi cael ei gyflwyno i Senedd yr Alban gan yr ASA Llafur Anne McTaggart, ac ymysg y rheiny sydd wedi datgan eu cefnogaeth mae’r gyflwynwraig deledu Lorraine Kelly.

Cafodd deddf debyg ei phasio gan Gynulliad Cymru yn 2013, ac fe fydd yn dod i rym yn nes ymlaen eleni ar ôl ymgyrch o ddwy flynedd i roi gwybod i bobl am y ddeddf.

Ond mae Llywodraeth yr SNP wedi awgrymu y byddan nhw’n aros i weld beth yw’r effaith yng Nghymru cyn penderfynu a ydyn nhw am wneud yr un peth yn yr Alban.

Deddf Cymru

O dan y ddeddf sydd eisoes wedi cael ei phasio yng Nghymru, byddai’n rhaid i unrhyw un sydd ddim am roi eu horganau ar ôl iddyn nhw farw ddweud hynny o flaen llaw.

Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny fe allai eu horganau gael eu defnyddio mewn triniaethau meddygol yng Nghymru, cyn belled â’u bod nhw wedi bod yn byw yng Nghymru ers 12 mis.

Ond os yw unigolyn heb roi barn naill ffordd neu’r llall, fe fyddai dal rhaid gofyn i deulu’r person cyn defnyddio eu horganau.

Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru oedi am ddwy flynedd cyn i’r ddeddf ddod i rym er mwyn rhoi digon o amser iddyn nhw hysbysu’r cyhoedd am y newid, ac i annog pobl i drafod eu dymuniadau gyda theulu a ffrindiau agos.

Yr Alban yn aros?

Fe allai’r Alban nawr ddilyn yr un trywydd a Chymru wrth i’r Bil hwn nawr gael ei gyflwyno yn y Senedd.

Ond hyd yn hyn dyw Llywodraeth yr Alban ddim wedi dweud beth yw eu safbwynt nhw, ac wedi awgrymu y byddan nhw’n aros i weld sut fydd pethau’n gweithio yng Nghymru gyntaf cyn penderfynu.

“Rydym ni’n croesawu unrhyw drafodaeth yn ymwneud â mater pwysig rhoi organau a thrawsblaniadau, ond mae angen i ni edrych ar asesiad effaith y bil i optio allan o roi organau yng Nghymru cyn gwneud penderfyniad ar unrhyw newid yn yr Alban,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban.

“Mae hyn oherwydd nad oes, ar hyn o bryd, consensws ymysg arbenigwyr ynglŷn ag a fydd optio allan yn gwneud unrhyw wahaniaeth sylweddol, a dyw’r dystiolaeth ryngwladol ddim yn glir.”